Fe fu cynnydd sylweddol yn nifer y plant sydd wedi cael eu gweld gan glinig trawsrywedd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y ffigwr bron iawn â dyblu i 75 yn ystod y deuddeg mis diwethaf – dim ond un achos oedd saith mlynedd yn ôl.
Roedd plentyn pump oed ymhlith y rhai a gafodd eu gweld o ganlyniad i deimladau o fod eisiau bod yn drawsryw.
Clinig Tavistock yw’r unig glinig yng Nghymru sy’n cynnig triniaeth yn ymwneud â thrawsrywedd i bobol ifanc yng Nghymru – a Lloegr.
Cafodd oddeutu 2,000 o blant eu cyfeirio i’r clinig gan y Gwasanaeth Iechyd y llynedd – sy’n gynnydd o 42% ers 2015-16.
79% o gynnydd a gafwyd yng Nghymru.
Mae lle i gredu bod agweddau mwy positif at bobol drawsryw sy’n gyfrifol am y cynnydd.