Merched Chibok a gafodd eu cipio gan Boko Haram (Llun: PA)
Fe fydd Arlywydd Nigeria, Muhammadu Buhari yn cyfarfod ag 82 o ferched ysgol yn Chibok yr wythnos hon ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau gan Boko Haram.
Cawson nhw eu cipio gan y mudiad eithafol dair blynedd yn ôl, ond byddan nhw’n cael eu rhyddhau’n ffurfiol i ddwylo’r llywodraeth ym mhrifddinas y wlad, Abuja.
Mae lle i gredu bod y merched wedi cael eu rhyddhau yn gyfnewid am eithafwyr sydd wedi’u hamau o droseddau.
Erbyn hyn, mae 113 o ferched Chibok yn dal ar goll ac mae teuluoedd y merched yn aros i glywed pwy yw’r rhai sydd wedi cael eu rhyddhau.
Cafodd llawer o’r merched eu gorfodi i briodi aelodau Boko Haram a geni eu plant mewn coedwigoedd.
Mae pryderon fod merched eraill wedi cael eu hyfforddi i fod yn hunanfomwyr.