Cynghorydd Phil Bale, arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd
Er i Lafur ddal gafael ar Gyngor Caerdydd yn etholiadau lleol Mai 4, mae un o gynghorwyr y grŵp wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn amau os all yr arweinydd presennol barhau yn ei swydd.
Mae disgwyl i o leiaf ddau, os nad tri, cynghorydd Llafur herio Phil Bale am arweinyddiaeth y grŵp, ac felly arweinyddiaeth y Cyngor, yn eu cyfarfod nesaf nos Lun, Medi 8.
“Mae sgyrsiau eisoes yn digwydd dros ymgeiswyr gwahanol ac mae hanner o’i gabinet presennol wedi dweud na fyddan nhw’n ei gefnogi,” meddai Russell Goodway, sydd newydd gael ei ail-ethol dros Lafur ar ward Trelái yng ngorllewin y brifddinas.
“Dim hyder” yn Phil Bale
Dywed y cynghorydd fod y canlyniad yng Nghaerdydd wedi bod yn un da ac “annisgwyl”, gan fod disgwyl i Lafur golli grym nos Iau.
Ac mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i’r Blaid Lafur ar y cyngor, gyda ffraeo ymysg y grŵp a rhai cynghorwyr hyd yn oed yn gadael i ymuno â phlaid arall yn dilyn honiadau o fwlian.
“Dw i ddim yn credu bod gan y grŵp hyder ynddo ac, yn sicr, does gan ei gabinet ddim hyder ynddo o’r sgyrsiau dw i wedi cael dros y misoedd diwethaf,” meddai Russell Goodway am Phil Bale, gan ddweud bod ei arweinyddiaeth wedi bod yn “siom”.
Fel cyn-arweinydd y Cyngor ei hun, mae Russell Goodway yn dweud yn bendant na fydd e’n sefyll i fod yn arweinydd eto. “Dw i wedi bod yno, wedi’i wneud e i gyd a chael y crys-t,” meddai.
Er nad oedd am gadarnhau unrhyw enwau, dywedodd fod “o leiaf ddau, o bosib tri” chynghorydd yn bwriadu herio Phil Bale. Bydd y cyfarfod yn digwydd nos Lun am 7 o’r gloch yn Neuadd y Sir.
Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Phil Bale, ond heb gael ateb.