Samata Ullah o Gaerdydd Llun: Heddlu Metropolitan/PA
Mae dyn o Gaerdydd wedi’i garcharu am wyth mlynedd am droseddau brawychol gan gynnwys cuddio deunydd brawychol mewn cyfflinc ar ei lawes.

Cafodd Samata Ullah, 34 oed, ei garcharu yn Llys yr Old Bailey Llundain heddiw ar ôl cyfaddef pum trosedd brawychol – gan gynnwys bod yn aelod o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS), hyfforddi a pharatoi gweithredoedd brawychol.

Roedd wedi creu canolbwynt o wybodaeth i frawychwyr o bob cwr o’r byd oedd yn cynnwys cyngor ar sut i osgoi cael eu dal gan yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch.

Cafodd ddedfryd estynedig o wyth mlynedd mewn carchar, ynghyd â phum mlynedd arall ar drwydded estynedig.

 

‘Unigolyn peryglus’

Pan gafodd ei arestio ym mis Medi’r llynedd roedd yn gwisgo cyfflinc gyda chofbin (USB) arno oedd yn cynnwys system i guddio casgliad o ddata eithafol.

“Dyma’r tro cyntaf inni weld unrhyw beth ar y raddfa yma,” meddai Pennaeth Gwrth-frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan, Dean Haydon.

“Roedd wedi sefydlu llyfrgell ‘helpu eich hun’ ar gyfer brawychwyr o bob cwr o’r byd, ac roedden nhw’n defnyddio ei lyfrgell,” meddai.

“Roedd cyngor ar amgryptio, ffyrdd i osgoi cael eich canfod gan yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch, tiwtoriaeth arbenigol ar systemau taflegrau, a swm eang o bropaganda,” ychwanegodd.

“Roedd yn unigolyn peryglus iawn er ei fod yn gweithredu o’i ystafell wely.”

Clywodd y llys bod Samata Ullah, a oedd yn byw ar ei ben ei hun, wedi creu fideos yn dangos sut i ddiogelu data a pharhau’n anhysbys ar y we o fis Rhagfyr 2015 ymlaen.

Dywedodd Brian Altman QC ar ran yr erlyniad eu bod yn gwrthod yr awgrym bod ei weithredoedd yn “rhan o fywyd ffantasi.”