Y Gwir Barchedicaf June Osborne (Llun: Ian Berry, trwy law yr Eglwys yng Nghymru)
June Osborne, cyn-Ddeon Caersallog, sydd wedi’i phenodi’n Esgob Llandaf i olynu Barry Morgan.

Yn ei swydd newydd, fe fydd hi’n gwasanaethu eglwyswyr dinas Caerdydd, Cymoedd de Cymru a Bro Morgannwg.

O fewn Eglwys Loegr, June Osborne oedd y fenyw gyntaf i gael ei phenodi’n Ddeon mewn gofal o gadeirlan hynafol, pan gafodd ei hordeinio yn 1994.

Fe gaiff ei chysegru i’r gwaith yng Nghadeirlan Aberhonddu ar Orffennaf 15 eleni.

“Braint enfawr”                                                            

“Mae’n fraint enfawr cael fy enwebu fel Esgob Llandaf, swydd hynafol gyda llawer o ragflaenwyr o fri,” meddai June Osborne.

“I’r teulu, fe fydd dychwelyd i Gymru yn rhyw fath o ‘ddod adref’, yn arbennig oherwydd bod fy ngŵr yn hanu o Gaerdydd ac mae’n lle yr ydym yn ei adnabod ac yn ei garu.”