Mae achos llys golygydd papur newydd yng Ngheredigion, sydd wedi’i gyhuddo o dorri cyfyngiadau gohebu mewn llysoedd, yn parhau.
Mae Thomas Sinclair wedi’i gyhuddo o dorri’r gyfraith drwy enwi achwynydd mewn achos o drosedd rhyw.
Bydd y dyn o Aberdaugleddau, sy’n olygydd ar bapurau’r Pembrokeshire Herald, y Carmarthenshire Herald a’r Ceredigion Herald, yn mynd gerbron barnwr yn Llys Ynadon Hwlffordd ar Fai 12.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Llanelli ar 20 Ebrill, lle benderfynodd gadw ei ble ddieuog.
Ym mis Hydref 2016, cafodd y golygydd ddirwy o £500 am enwi person ifanc mewn achos llys dechrau 2016.