Yn ôl y ffigurau diweddaraf, Cymru sydd wedi cofrestru’r ail nifer lleiaf o dai newydd yng ngwledydd Prydain.

Er bod nifer y tai newydd sy’n cael eu cofrestru ledled y Deyrnas Unedig ar ei uchaf mewn degawd, mae Cymru bron ar waelod tabl y Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol.

Yn ystod chwarter cyntaf 2017, cafodd 1,302 o dai newydd eu cofrestru yng Nghymru – cynnydd ers chwarter cyntaf 2016, pan gofrestrwyd 1,069 o dai.

Yr unig ardal arall ym Mhrydain oedd â llai o dai na hyn oedd Gogledd Iwerddon gyda 761 ar ddechrau 2017, o gymharu â 650 yn 2016.

Cofrestrwyd dros 3,250 o dai newydd yn yr Alban ar ddechrau 2017, bron i 6,700 yn Llundain a 4,671 yn nwyrain Lloegr.

Bu’r cynnydd mwyaf rhwng dechrau 2016 a dechrau 2017 yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, o 1,131 o dai i 1,567 – cynnydd o 39%.

Cynnydd – ‘newyddion da’

Ledled y Deyrnas Unedig, cafodd 31,197 o dai eu cofrestru’n breifat, sy’n gynnydd o 10% a 11,273 yn y sector tai fforddiadwy – 40% yn fwy o gymharu â’r un chwarter yn 2016.

Am y tro cyntaf mewn saith blynedd, mae pob rhanbarth yng ngwledydd Prydain wedi gweld mwy o dai yn cael eu cofrestru, o gymharu â’r un chwarter 12 mis yn ôl.

“Mae’r ffigurau, gyda thwf ledled y wlad, yn amlwg yn galonogol i’r sector,” meddai cyfarwyddwr rheoli’r Cyngor Adeiladu Tai, Neil Jefferson.