Llun: Ford
Bydd gweithwyr yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cynnal pleidlais i benderfynu os ydyn nhw am weithredu’n ddiwydiannol.
Mae undeb Unite wedi cadarnhau y bydd pleidlais yn cael ei chynnal ym mis Mai ac mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ar ddiwedd y mis.
Mae’r gweithwyr yn dweud eu bod yn poeni am ddyfodol y ffatri a’u swyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Unite, bod modd i weithwyr weithredu’n ddiwydiannol heb orfod cynnal streic lwyr.
“Ni fyddwn o reidrwydd yn mynd ar streic. Ond os fydd rhaid gweithredu’n ddiwydiannol, felly y bo. Gobeithiwn fod Ford yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa,” meddai’r llefarydd ar ran Unite.
Ym mis Mawrth fe ddywedodd undebau y gallai 1,160 o swyddi gael eu colli erbyn 2021.
Daw’r penderfyniad i gynnal pleidlais ar weithredu’n ddiwydiannol yn sgil pleidlais ymgynghorol.