Shân Cothi (Llun: BBC Radio Cymru)
Mae’r elusen sy’n gweithio ar ran cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru wedi cyhoeddi mai’r gyflwynwraig a’r gantores Shân Cothi fydd yn arwain noson wobrwyo Womenspire eleni eto.

Shân Cothi fu wrth y llyw yn y digwyddiad y llynedd lle daeth 300 o bobol ynghyd i gydnabod cyfraniad merched yng Nghymru i wahanol feysydd.

Ac eleni, mae’r elusen Chwarae Teg yn galw am enwebiadau pellach gan ymestyn y dyddiad cau tan 11 Mai 2017.

‘Cyflawniadau personol… ac eithriadol’

Mae’r elusen yn cynnig gwobrau mewn meysydd sy’n cynnwys chwaraeon, menter a busnes, addysg, cefn gwlad, creadigrwydd ac arweinyddiaeth gymunedol.

Bydd gwobrau hefyd i sefydliadau a chyflogwyr sy’n hyrwyddo cydraddoldeb o fewn y gweithle.

 

“Mae Womenspire yn cydnabod pob rhan o fywydau menywod, o gyflawniadau personol i gyfraniadau eithriadol, ac rydym am i gymaint â phosib fod yn rhan o’r dathliadau hyn,” meddai Cerys Furlong, Prif Weithredwr elusen Chwarae Teg.

Mae’r gwobrau’n cael eu cynnal eleni ar 21 Mehefin 2017 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.