Mae canolfan fydd yn ymchwilio i’r broblem o ymosodiadau seiber wedi cael ei sefydlu yn swyddogol heddiw.

Wrth lansio’r Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Dadansoddi Seiber-ddiogelwch, dywedodd Prifysgol Caerdydd ac Airbus mai hon yw’r cyntaf o’i fath yn Ewrop.

Wedi ei leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd y ganolfan yn gartref i ymchwil i ddulliau o wella diogelwch rhwydweithiau cyfrifiadurol.

Bydd arbenigwyr o Airbus yn cynorthwyo ymchwilwyr a myfyrwyr, ac mi fydd y cwmni a’r brifysgol yn rhannu gwybodaeth.

“Partneriaeth newydd a chyffrous”

“Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn enghraifft wych o sut y mae arbenigedd Prifysgol Caerdydd yn cysylltu â busnesau blaenllaw yn y byd i sicrhau dyfodol gwell i Gymru a’r byd,” dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan.

“Mae ymchwil i seiber-ddiogelwch yn hollbwysig yn ein cymdeithas ddigidol felly mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n chwilio am atebion arloesol perthnasol er mwyn canfod ymosodiadau seiber peryglus a diogelu systemau rhagddynt.”

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael bron i £2m o gyllid ymchwil allanol er mwyn lansio rhaglenni newydd dros y tair blynedd nesaf.