Gwilym Simcock (Llun Golwg360 - Rob Froud)
Fe fydd gan ddau Gymro rôl amlwg wrth agor neuadd newydd yn un i ysgolion cerdd gorau’r byd.
Y pianydd Gwilym Simcock, a anwyd ym Mhontllynfi ger Penygroes, Caernarfon, fydd y perfformiwr nos Wener adeg agor Neuadd Stoller yng Ngholeg Chetham’s ym Manceinion.
A’r prifathro newydd ar yr ysgol, a gafodd ei siglo gan sgandalau cam-drin rhywiol, yw Alun Jones, canwr a gafodd ei hyfforddi yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd ac a ddechreuodd ei ryfa yn Ysgol y Gadeirlan yn Llandaf.
Mae e wedi dweud wrth bapur y Guardian bod yr ysgol bellach mewn “iechyd da” gyda darpariaethau newydd i warchod disgyblion.
‘Amser caled’
Yn ei gyfweliad cynta’ ers cymryd y swydd y llynedd, fe ddywedodd fod yr ysgol wedi “bod trwy amser caled” ar ôl honiadau am gam-drin rhywiol, yn benodol yn erbytn dau aelod o staff.
Fe fydd y neuadd newydd, gwerth £8.7 miliwn yn arwydd o optimistiaeth newydd, meddai.
Mae’r neuadd newydd yn cael ei hystyried yn ystafell berfformio o safon rhyngwladol.