Cyfieithiad Isaac (Llun: tudalen Facebook James Taylor)
Mae dau frawd o Gymru wedi mynd ati i gyfieithu un o glasuron y canwr gwerin James Taylor i’r Gymraeg.

Mewn neges ar dudalen Facebook y canwr, mae’n dweud bod cyfieithiadau Joshua, pump oed, ac Isaac, naw oed, yn “annwyl”.

Aethon nhw ati i gyfieithu You Can Close Your Eyes, a gafodd ei hysgrifennu fel emyn seciwlar ddechrau’r 1970au.

Ymddangosodd ar yr albwm Mud Slide Slim and the Blue Horizon, ac roedd ar ochr B y record You’ve Got a Friend.

Fersiynau Joshua ac Isaac

Mae cyfieithiad y brodyr o’r gân, Gei di Cau dy Lygaid ar dudalen Facebook James Taylor ers dydd Gwener.

Dywed y neges: “Am annwyl! Mae’r brodyr o Gymru Joshua (5) ac Isaac (9) wedi cyfieithu “You Can Close Your Eyes” ac mae eu mam, Jackie, wedi anfon eu canlyniadau at James.”

Eglura’r neges fod Joshua wedi llunio fersiwn ffonetig o’r gân Saesneg, a bod fersiwn Isaac yn gyfieithiad o’r gân wreiddiol.