Llwybrau ar y we (Llun: Parc Cenedlaethol Eryri)
Mae rhai o lwybrau cerdded Eryri bellach i’w gweld ar fapiau Google Street View ar y we, wedi i wirfoddolwyr a staff y Parc Cenedlaethol eu cofnodi â chamerâu ar eu pennau.
Dwy flynedd yn ôl, pan sefydlodd Google ‘Google Trekker’ i fentro i lefydd anhygyrch i gerbydau, cafodd 11 o lwybrau Eryri, gan gynnwys llwybrau’r Wyddfa, eu hychwanegu at yr adnodd.
Erbyn hyn, gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae 17 o lwybrau eraill wedi’u cofnodi.
Bu gwirfoddolwyr a staff yr Awdurdod yn cofnodi golygfeydd ar gyfer y wefan gyda phecyn 22kg ar eu cefnau a glôb yn cynnwys 15 o gamerâu ar eu pennau.
Dangos y dirwedd
Rhan o fwriad cynnwys y llwybrau yw i bobol gael syniad o natur y dirwedd a gwybod pa lwybrau sy’n addas iddyn nhw.
“Y gwir amdani yw bod gennym gymaint o lwybrau ym mhob cwr o’r Parc Cenedlaethol sy’n addas ar gyfer pob math o alluoedd, ac un o’r manteision i gael adnodd fel y Google Street View ar lwybrau Eryri yw ei fod yn dangos ystod yr amrywiaeth hwnnw,” meddai Mair Huws, Pennaeth Adran Wardeniaid a Mynediad yr Awdurdod.
“Fe fyddai’n wych gweld teuluoedd o bob gallu yn mwynhau’r llefydd arbennig hyn dros y Pasg – mae ‘na rywbeth yma i bawb yn Eryri.”
Y llwybrau diweddaraf i’w cofnodi yw:
· Llyn Tegid, Y Bala – De
· Llyn Tegid, Y Bala – Gogledd
· Tomen y Mur
· Abergwyngregyn – Rhaeadr Fawr
· Llwybr Llanfairfechan
· Llwybr y Pysgotwr a Chwm Bychan
· Llyn Dinas
· Llwybr Ianws
· Crimpiau
· Lôn Las Ogwen (Ogwen i Gapel Curig)
· Llwybr Cynwch
· Llwybr Cnicht
· Llwybr Pren Traeth Benar
· Llwybr Craig y Ddinas
· Llwybr Llyn Traws
· Llwybr Afon a Llyn, Y Bala
· Cylchdaith Croesor