Mae’r trais yn Ne Swdan wedi datblygu’n hil-laddiad sy’n cael ei gyflawni ar sail llwythol, yn ôl Ysgrifennydd Prydain dros Ddatblygiad Rhyngwladol, Priti Patel.
Dywedodd mewn cyfweliad bod “cyflafanau yn digwydd” yng ngwlad fwya’ newydd y byd, a bod “gyddfau pobol yn cael eu hollti”.
Bu’r gwleidydd yn ymweld â’r wlad yr wythnos ddiwethaf, gan ddweud bod pentrefi’n cael eu llosgi i’r llawr, menywod yn cael eu treisio a bwyd yn cael ei ddefnyddio fel arf mewn rhyfel.
Disgrifiodd y sefyllfa yn Ne Swdan fel un “gwbwl ffiaidd a chiaidd.”
Roedd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig yn dweud y mis diwethaf bod “glanhau ethnig” yn digwydd yn y wlad a hynny’n bennaf gan luoedd y llywodraeth.
Mae De Swdan wedi bod mewn sefyllfa o ryfel cartref ers mis Rhagfyr 2013.