Mae’r ddynes a gollodd ei chytundeb i fod yn Is-Gadeirydd y corff Chwaraeon Cymru yn dweud bod angen “gofyn cwestiynau” am y drefn o ddewis penaethiaid i gyrff cyhoeddus.
Yn ôl Adele Baumgardt, roedd trafferthion y corff chwaraeon yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ yn codi o ddiffygion y cyn-Gadeirydd Paul Thomas, sydd wedi cael y sac.
Ac fe ddywedodd fod gweithredoedd Bwrdd Chwaraeon Cymru yn gwrthryfela yn erbyn y Cadeirydd yn enghraifft o’r drefn gyhoeddus yn gweithio fel y dylai.
Roedd pleidlais o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd yn dangos eu bod yn ei alw i gyfri, meddai wrth Radio Wales.
‘Ddim yn ffit’
Mewn datganiad ar ôl y cyhoeddiad ddoe fod Paul Thomas a hithau yn colli eu swyddi, fe ddywedodd Adele Baumgardt nad oedd y cyn-Gadeirydd ddim yn ffit i ddal swydd gyhoeddus o’r fath.
Yn awr, mae wedi dweud bod angen edrych eto ar sut y mae penodiadau o’r fath yn cael eu gwneud.
Mae gwefan Chwaraeon Cymru yn dal i sôn yn ganmoliaethus am Paul Thomas, am ei waith gyda chwaraeon cymunedol a’i lwyddiant fel math o guru busnes ar raglenni teledu a radio.
Adroddiad beirniadol
Fe greodd Paul Thomas ddadlau ym mis Tachwedd y llynedd wrth gyflwyno adroddiad yn fflangellu’r ffordd yr oedd Chwareon Cymru’n cael ei reoli.
Ymhlith cyhuddiadau eraill, roedd yr adroddiad yn dweud bod y Bwrdd yn gwario gormod arnyn nhw’u hunain a bod angen mwy o sylw i chwaraeon llawr gwlad.
Ond, yn ôl Adele Baumgardt heddiw, doedd hi ddim adnabod ei ddisgrifiad o’r corff sydd wedi llwyddo i gyflawni’r amcanion yr oedd y Llywodraeth wedi’u gosod ar ei gyfer.
Dyletswyddau
Fe ddywedodd y cyn Is-Gadeirydd yn y cyfweliad fod gweddill Bwrdd Chwaraeon Cymru – sy’n cadw’u swyddi – wedi ceisio’i atgoffa am ei ddyletswyddau wrth arwain corff cyhoeddus.
Roedd y llythyr diswyddo gan Lywodraeth Cymru i Paul Thomas yn awgrymu bod y berthynas rhyngddo a gweddill y corff wedi chwalu.
Yn ei dro, mae Paul Thomas wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o droi cefn arno ar ôl gofyn iddo ddod i mewn i Chwareon Cymru i wneud newidiadau.
Yn ôl Adele Baumgardt, doedd dim honiadau yn ei herbyn hi ond fod y Llywodraeth wedi penderfynu bod angen arweinwyr newydd ar y brig.