Ashley Williams (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Mae Ashley Williams wedi dweud ei fod e’n teimlo’n sâl ar ôl sylweddoli bod Seamus Coleman wedi torri ei goes yn y gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn nos Wener diwethaf.

Mae’r ddau yn chwarae yn nhîm Everton ac yn ffrindiau agos, ond roedden nhw’n wrthwynebwyr yn y gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2018.

Bu’n rhaid i’r Gwyddel gael llawdriniaeth ar ei goes yn dilyn tacl flêr gan Neil Taylor, a gafodd gerdyn coch.

Dywedodd Ashley Williams wrth wefan Everton: “Wnes i ddim wir gweld y dacl. Y cyfan welais i oedd y cerdyn coch ac fy ymateb yn syth oedd mynd at y dyfarnwr.

“Ar y pryd, ro’n i yn ei chanol hi. Fe gymerodd funud i fi sylweddol, ‘dyw e ddim wedi codi’ ac mai Seamus oedd ar lawr.”

‘Ffrind’

Ychwanegodd ei fod yn gofidio am ei “ffrind” yn dilyn y digwyddiad.

“Hyd yn oed bryd hynny, do’n i ddim yn sylweddoli bod yr anaf mor ddifrifol. Ar ôl y gêm, es i i’r ystafell newid i siarad â James McCarthy, ac fe ddywedodd wrtha i fod Seamus wedi mynd i’r ysbyty a’i fod e wedi torri ei goes.”

Dywedodd fod Neil Taylor “bron yn ei ddagrau” ar ôl y gêm.

“Fe wnaeth e ofyn i fi a fyddai’n iawn iddo fe fynd i weld Seamus yn yr ysbyty. Fe gafodd e ei rif e ac anfon neges destun ato fe’n syth.

“Pan wnes i ddarganfod ei fod e wedi torri ei goes, ro’n i’n teimlo’n sâl tu fewn i fi oherwydd mae e’n rhywun dw i’n ei nabod ac mae e’n un o fy ffrindiau.”

Mae Seamus Coleman bellach wedi gadael yr ysbyty.