Iestyn Tyne
Mae bardd ifanc o Ben Llŷn wedi penderfynu mynd ati ar ei liwt ei hun i gyhoeddi’i gyfrol gyntaf o farddoniaeth fel math o “arbrawf”.
“Roeddwn i am fynd o’i chwmpas hi fy hun fel rhyw fath o arbrawf – ydi’r peth yn bosib yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg?,” meddai Iestyn Tyne sydd hefyd yn un o olygyddion y cylchgrawn llenyddol Y Stamp gafodd ei lansio’r wythnos ddiwethaf.
Mae ei gyfrol newydd, addunedau, yn cynnwys deg ar hugain o gerddi wedi’u hysgrifennu yn y ddwy flynedd ddiwethaf – a hynny wedi iddo ennill Cadair yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ym mis Tachwedd y llynedd.
‘Ddim yn cywilyddio’
Rhai o brif bynciau’r gyfrol, esbonia Iestyn Tyne, ydy Cymreictod, cariad, gwleidyddiaeth, iechyd meddwl a byd natur ac maen nhw’n “adlewyrchu’r profiad o fod yn llanc ifanc yng Nghymru heddiw.”
“Ro’n i’n teimlo pe bawn i’n cyhoeddi ymhen pum mlynedd i rŵan na fyddai’r cerddi sydd yn addunedau yn ei gwneud hi i’r gyfrol honno, ond doeddwn i ddim am adael iddynt bydru mewn drôr,” meddai’r bachgen sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae’n bosib y bydd rhai yn fy atgoffa bod nifer o feirdd sydd wedi cyhoeddi cerddi eu glaslencyndod yn y gorffennol wedi difaru gwneud, ond dydw i ddim yn credu y byddaf yn cywilyddio wrth y cerddi hyn ymhen blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd.
Dyma fideo ohono’n darllen rhai o gerddi’r gyfrol gan gynnwys ‘Celf Fodern’, ‘Coelcerth’ a ‘Llun o bell’ yn noson Bragdy’r Beirdd yng Nghaerdydd fis diwethaf…