The Gentle Good (Llun: Guto Brychan)
Wrth i fwy na hanner miliwn o bobol gymryd rhan yn yr Awr Ddaear neithiwr, roedd perfformiad arbennig ar Facebook Live gan The Gentle Good a Catrin Herbert.
Roedd y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu’n flynyddol gan WWF Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeg oed eleni.
Yn gefnlen i’r perfformiad y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd roedd cerflun ‘Message in a Bottle’ gan yr artist Lulu Quinn, yn galw am ragor o sylw i newid hinsawdd ar draws y byd.
Ymhlith yr adeiladau oedd wedi diffodd eu goleuadau rhwng 8.30 a 9.30 neithiwr roedd castell Caernarfon, y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, Amgueddfa’r Glannau yn Abertawe a Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Neges Gareth Bonello
Yn dilyn y perfformiad gan The Gentle Good, dywedodd Gareth Bonello ei bod yn “wych” cael perfformio yn y digwyddiad.
“Dw i’n gefnogwr brwd o WWF Cymru a’r Awr Ddaear.
“Fy #WWFMessageinaBottle yw symud i ffwrdd o’n dibyniaeth ar danwyddau ffosil a buddsoddi mewn ffynonellau ynni gwyrdd.
“Gobeithio y bydd ein harweinwyr gwleidyddol yn arwain y ffordd a gwneud i hyn ddigwydd er lles pawb sy’n byw ar y Ddaear.”
Ymateb y cyhoedd
Dywedodd pennaeth WWF Cymru, Anne Meike ei bod hi wrth ei bodd gydag ymateb y cyhoedd i’r digwyddiad.
“Dyma’r mwyaf eto, ac ry’n ni wrth ein bodd fod pob un o’r 22 awdurdod lleol wedi cofrestru am yr ail flwyddyn yn olynol, ynghyd â busnesau a thros 300 o ysgolion.
“Mae ein Neges mewn Potel hefyd wedi cydio yn nychymyg gwleidyddion Cymru gyda hanner Aelodau’r Senedd yn datgan eu cefnogaeth i’n hymgyrch yn gynharach yr wythnos hon.
“Mae’n amlwg fod mynd i’r afael â newid hinsawdd yn dod yn flaenoriaeth i’r cyhoedd a gwleidyddion – ac mae hynny i’w ddathlu.”
2016 oedd y flwyddyn fwyaf cynnes erioed, yn ôl ystadegau.