Yn y dosbarth (Llun: PA)
Fe fyddai camerâu corff yn cael mwy o groeso yn yr ystafell ddosbarth, yn hytrach na theledu cylch-cyfyng, meddai athro ysgol uwchradd wrth golwg360.
Roedd yr athro mathemateg, sy’n dymuno aros yn ddi-enw ond sy’n gweithio yn Rhondda Cynon Tâf, yn ymateb i alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig ac undeb NUT i gyflwyno’r camerâu fel modd o fynd i’r afael â thrais yn erbyn athrawon.
Yn ôl yr NUT, mae athrawon yn dioddef mwy na 1,500 o achosion o drais yn yr ystafell ddosbarth bob blwyddyn, ac maen nhw’n galw am beidio â “diystyru” y posibilrwydd o gyflwyno’r dull o oruchwylio.
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar wedi galw am roi’r hawl i gyrff llywodraethu ysgolion gyflwyno’r mesur pe bai angen, gan fod “gormod o athrawon” yn dioddef trais.
Ymchwiliadau’n unig
Dywedodd yr athro wrth golwg360 y byddai’n croesawu’r defnydd o gamerâu corff.
“Y gwrthwynebiad mwyaf fyddai gan unrhyw athro yw’r posibilrwydd y gallai gael ei wylio gan uwch reolwyr fel modd o asesu gwendidau dysgu.
“Dim ond er mwyn amddiffyn athrawon y dylai camerâu gael eu defnyddio, ac nid ar gyfer arsylwi athrawon.
“Gall camerâu corff ffilmio rhywun yn dod tuag atoch chi yn hytrach na ffilmio’r gwersi.
“Byddai camerâu cylch-cyfyng yn rhwystr i berthynas athrawon â’u disgyblion, gan y byddech chi’n teimlo fel pe baech chi’n cael eich gwylio.
“Dim ond mewn achosion lle mae ymchwiliad i gamdrin geiriol neu gorfforol y dylid gwylio’r hyn sy’n cael ei ffilmio wedyn.”
‘Annerbyniol’
Mewn datganiad, dywedodd Darren Millar: “Mae gormod o athrawon yn dargedau trais mewn ysgolion yng Nghymru ac mae hynny’n annerbyniol.
“Mae disgyblaeth yn broblem mewn rhai ysgolion ac mae’n amlwg nad yw’r dulliau presennol bob amser yn llwyddo.
“Tra bod y defnydd o gamerâu cylch-cyfyng neu gamerâu corff yn ymddangos yn eithafol, maen nhw’n rhywbeth y dylai fod gan gyrff llywodraethu ysgolion yr hawl i’w cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth os ydyn nhw’n gweld hynny’n dbriodol.”