Mae 77 o sefydliadau ledled Cymru wedi cael cadarnhad heddiw y byddan nhw’n cael grant gan Lywodraeth Cymru i barhau â’u gwaith o hwyluso’r Gymraeg.
Mae cyfanswm y grantiau, ar y cyfan, yn aros yr un fath â’r llynedd gyda gwerth £4.2 miliwn yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau ar gyfer 2017/18.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael grant o £603,000; Cymdeithas Eisteddfodau Cymru’n cael £46,036; Merched y Wawr £84,205; CFfI Cymru £89,719; Urdd Gobaith Cymru £852,184 a Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru £50,000.
Bydd ychydig o newid i gyfanswm grant y Papurau Bro wrth iddo ddisgyn o £88,880 i £87,810 a hynny ar sail y nifer o rifynnau sy’n cael eu cyhoeddi gan effeithio’n bennaf ar bapur bro Dan y Landsker.
Er hyn, mae Mentrau Iaith Cymru wedi gweld cynnydd o £100,000 i £110,000 yn eu grantiau nhw.
‘Lles yr iaith’
“Mae’r grantiau hyn yn cydnabod cyfraniad y sefydliadau hyn i les yr iaith yn y dyfodol,” meddai Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
“Rydw i wastad wedi credu nad cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw dyfodol y Gymraeg. Mae gan gyrff eraill, ar lefel genedlaethol a lleol, cymdeithasau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion, bob un ei ran i chwarae,” meddai.
“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth ddatblygu dyfodol yr iaith, a bydd yr arian hwn yn gwneud llawer i’n helpu i wireddu ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg,” ychwanegodd.