Lauren Jeska o Fachynlleth, Llun: Heddlu West Midlands/PA
Mae cyn-bencampwraig rhedeg mynydd o Bowys wedi cael ei charcharu am ddeunaw mlynedd am geisio llofruddio dyn ym Mirmingham ym mis Mawrth y llynedd.
Roedd Lauren Jeska, 41 oed, o Fachynlleth wedi pledio’n euog o geisio llofruddio’r cyn-chwaraewr rygbi Ralph Knibbs oedd yn bennaeth adnoddau dynol Athletau’r Deyrnas Unedig.
Clywodd y llys iddo gael ei drywanu yn ei ben a’i wddf ar 22 Mawrth y llynedd a bod dau ddyn arall oedd yn gweithio yn y swyddfa gydag ef wedi cael mân anafiadau ar ôl ceisio’i helpu.
Anghydfod
Cafodd Lauren Jeska ei dedfrydu yn Llys y Goron Birmingham heddiw, ar ôl pledio’n euog i’r cyhuddiadau.
Clywodd y llys ei bod yn athletwr trawsrywiol ac mewn anghydfod ag Athletau’r Deyrnas Unedig am ei hawl i gystadlu fel athletwr gwrywaidd.
“Doedd hi ddim wedi darparu’r samplau cyfredol o lefelau testosteron na dogfennau perthnasol eraill,” meddai’r cyfreithiwr Richard Atkins.
O ganlyniad, roedd ei chanlyniadau rasio wedi’u cofnodi’n annilys, clywodd y llys.