Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn gael ei drywanu ym Mochdre ger Bae Colwyn prynhawn dydd Llun.
Cafodd y dyn ei drywanu sawl gwaith yn dilyn ffrae rhwng nifer o bobol ar y draffordd rhwng Ffordd Euryn a Ffordd y Maer ym Mochdre tua 5.15yp ddydd Llun, 13 Mawrth.
Mae’r dyn yn parhau i gael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ond nid yw ei anafiadau yn rhai sy’n bygwth bywyd.
Mae dyn lleol wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.
“Nid ymosodiad ar hap oedd hwn, roedd yn ffrwgwd rhwng sawl person oedd yn adnabod ei gilydd,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Chris Bell.
“Bydd ein hymholiadau yn parhau trwy gydol y dydd ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn agos i safle’r digwyddiad rhwng 5 a 5.30 yr hwyr ddoe.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod RC17035423.