Banc Lloegr Llun: PA
Mae dirprwy lywodraethwr Banc Lloegr wedi ymddiswyddo wedi iddi ddod dan y lach am dorri cod ymddygiad y banc ar ôl methu a datgan bod ei brawd yn gweithio i Barclays.
Roedd Charlotte Hogg wedi cynnig ymddiswyddo wythnos ddiwethaf cyn anfon llythyr at lywodraethwr Banc Lloegr Mark Carney ddydd Llun, yn mynnu y dylai hi gamu o’i swydd.
Cafodd ei llythyr ei wneud yn gyhoeddus ddydd Mawrth, funudau’n unig ar ôl i Bwyllgor Dethol y Trysorlys gyhoeddi adroddiad oedd yn dweud “nad oedd ei gallu proffesiynol yn cwrdd â’r gofynion” sydd eu hangen i gyflawni ei rôl fel dirprwy lywodraethwr y banc.
Mae Charlotte Hogg wedi ymddiheuro wrth y Pwyllgor am beidio â datgelu’n swyddogol bod ei brawd, Quintin, yn gyfarwyddwr strategaeth gyda grŵp Barclays.
Roedd wedi methu a datgelu’r cysylltiad sawl gwaith ers ymuno a’r Banc yn 2013. Cafodd ei phenodi yn ddirprwy lywodraethwr ar ddechrau mis Mawrth.
Dywedodd Mark Carney ei fod yn siomedig bod Charlotte Hogg wedi penderfynu ymddiswyddo gan ddweud bod ei chyfraniad wedi bod yn sylweddol a’i bod wedi gwneud y Banc yn “gryfach, mwy diogel ac effeithiol.”