Mae storm bwerus wedi dechrau taro gogledd ddwyrain yr Unol Daleithiau gan arwain at ganslo teithiau awyren, cau ysgolion a rhybuddion i yrwyr gadw oddi ar y ffyrdd.
Mae’r Gwasanaeth Dywydd Cenedlaethol wedi rhybuddio y bydd stormydd eira ym Mhensylfania, New Jersey, Efrog Newydd, Connecticut, Rhode Island, Massachusetts, New Hampshire, Maine a Vermont.
Bydd cwymp trwm o eira tan brynhawn dydd Mawrth gyda hyd at bedwar modfedd yn disgyn bob awr, ac o ganlyniad mae ysgolion yn ninas Efrog Newydd, Philadelphia a Boston ynghau.
Yn ôl gwefan FlightAware mae 5,000 o deithiau awyr wedi eu canslo ac yn ninas Efrog Newydd mae rhannau o’r sustem drenau tanddaearol wedi eu cau.
Ynghyd â gwyntoedd cryfion o 55 milltir yr awr, mae disgwyl y bydd hyd at ddwy droedfedd o eira yn disgyn yn ninas Efrog Newydd.
Mae talaith Maryland mewn stad o argyfwng ac mae’r Llywodraethwr, Larry Hogan, wedi rhybuddio eu bod yn wynebu “storm aeafol ddifrifol.”