Llun: Cyngor Sir Powys
Mae cynghorwyr Cyngor Sir Powys yn cyfarfod heddiw i bleidleisio dros ddyfodol y ffrwd addysg Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad gafodd ei gynnal rhwng Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017 yn argymell cau’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol o fis Medi 2017 ymlaen.
Byddai hynny’n creu ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn unig yn Aberhonddu, gyda’r disgwyl i ddisgyblion deithio i Lanfair ym Muallt, tua 16 milltir i ffwrdd, os am addysg Gymraeg.
‘Llai yn astudio trwy’r Gymraeg’
Yn ôl y cyngor, mae’r niferoedd sy’n astudio trwy’r Gymraeg yn yr ysgol wedi gostwng dros y blynyddoedd.
Ond mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd hyn yn arwain at lai o bobol leol yn dewis astudio trwy’r Gymraeg oherwydd y pellter i Lanfair ym Muallt.
Ar hyn o bryd, Powys yw un o’r ychydig siroedd yng Nghymru sydd heb ysgol uwchradd benodedig cyfrwng Cymraeg.
Yr wythnos diwethaf [Mawrth 7], fe wnaeth cyfarfod llawn o Gyngor Powys bleidleisio yn erbyn yr ymgynghoriad, ac mae disgwyl i’r Cabinet ddod i benderfyniad cyn diwedd y dydd heddiw.