Hen bont yng Nghaergwrle (John S Turner CCA2.0)
Dyw mwy na 300 o bontydd yng Nghymru ddim yn ddigon da i gario cerbydau trwm fel lorïau mawr, yn ôl adroddiad newydd.

Dywedodd Sefydliad y RAC y byddai’r gwaith i’w hadnewyddu yn costio mwy na £100 miliwn.

Mae’r cyfanswm o bontydd anaddas tros Gymru, yr Alban a Lloegr yn fwy na 3,200 ac, yn ôl y Sefydliad, fe fyddai cynghorau lleol yn dymuno cryfhau a gwella tua 2,110 o’r rheiny.

Ffigurau Cymru

  • Cyngor Conwy oedd â’r gyfran fwyaf o bontydd sydd ddim yn ddigon da yng Nghymru, gyda 22%, sef 51 o 234 o bontydd heb gyrraedd y safon.
  • Roedd Conwy hefyd yn y 10 uchaf o gynghorau ledled Prydain sydd â’r gyfran uchaf o bontydd dan y safon.
  • Powys oedd â’r nifer fwyaf o bontydd gwael, sef 62, a ond roedd hynny o gyfanswm o 1,336 o bontydd – cyfran o 5%.
  • Gyda 55 o bontydd heb gyrraedd y safon, dyw Cyngor Sir Gaerfyrddin ddim yn bell y tu ôl i Bowys, o gyfanswm o 798 o bontydd.
  • Yr unig sir oedd â phob pont yn cyrraedd y safon i gario cerbydau trwm oedd Ynys Môn, sydd â 142 o bontydd i gyd.

‘Angen buddsoddi’

Dywedodd Martin Tett, llefarydd trafnidiaeth y Gymdeithas Lywodraeth Leol, fod yr adroddiad yn dangos “yr angen parhaus am fwy o fuddsoddi mewn ffyrdd lleol.”

“Mae’r bwlch ariannu yn rhoi busnesau’r wlad dan anfantais gystadleuol ac yn rhoi gwerth gwael am arian,” meddai.