Pencadlys y BBC (Zizzu02 CCA3.0)
Mae Cymru heb lais ar y bwrdd newydd sy’n rheoli’r BBC, oherwydd ffrae.
Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru’n anghytuno ynglŷn â phwy ddylai gynrychioli’r wlad.
Yn ôl adroddiad newyddion y BBC ei hun, roedd Llywodraeth Prydain wedi cynnig enw ond fod Llywodraeth Cymru’n gwrthwynebu.
Mae hynny’n golygu y gallai’r bwrdd newydd orfod gweithredu am fisoedd heb lais o Gymru.
Y drefn newydd
Fe fydd y bwrdd newydd yn dod i rym ym mis Ebrill, gyda 14 o aelodau, gan gynnwys un o bob un o’r tair gwlad ar wahân i Loegr – mae’n disodli hen drefn Ymddiriedolaeth y BBC.
Maen nhw a saith o aelodau eraill yn dod o’r tu allan i’r BBC gyda phedwar o uwch swyddogion y Gorfforaeth hefyd ar y Bwrdd.
Er fod Llywodraeth Prydain yn mynnu bod eu henwebiad nhw’n addas, mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru’n anghytuno.
Mae’r disgrifiad o’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer lle ar y Bwrdd yn cynnwys gwybodaeth drylwyr o ddiwylliant, nodweddion a bywyd y genedl, gan gynnwys deall barn gyhoeddus yn y wlad.