Llun: PA
Mae merched “o hyd heb gynrychiolaeth ddigonol” yn uwch-swyddi’r rhan fwyaf o sectorau yng Nghymru, yn ôl adroddiad gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Yn ôl yr adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, dim ond 6% o Brif Weithredwyr 100 busnes pennaf Cymru sydd yn fenywod.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos mai ond 12% o brif gwnstabliaid a dirprwy prif gwnstabliaid, a 26% o gynghorwyr yng Nghymru sydd yn fenywod.
Mae tri chwarter o gynghorwyr yn ddynion ac mae’r cydbwysedd rhwng nifer y menywod a dynion sydd yn ein cynrychioli wedi gwaethygu ers dechrau datganoli, yn ôl yr adroddiad.
“Yn gyffredinol, er y bu rhywfaint o gynnydd, rydym yn adrodd bod menywod o hyd heb gynrychiolaeth ddigonol yn yr uwch swyddi yn y rhan fwyaf o’r sectorau yng Nghymru,” meddai Comisiynydd y Comisiwn, Cadeirydd Pwyllgor Cymru, June Milligan.
“Er rhai gwelliannau croesawus, nid yw’r sefyllfa yn 2017 wedi newid cymaint ag yr oeddem wedi’i ddymuno.”
Gwelliannau a newid
Mae’r adroddiad yn dangos ardaloedd lle bu gwelliant er enghraifft y sector iechyd lle mae’r gyfran o Brif Weithredwyr sydd yn fenywod wedi cynyddu o 10% i 60%.
Hefyd ym myd addysg, mae 60 y cant o Brifathrawon yn yr ysgolion yng Nghymru yn fenywod, ac mae cyfran Is-gangellorion Prifysgol sydd yn fenywod wedi cynyddu o 22% i 38%.
Am y tro cyntaf erioed, mae’r adroddiad yn cynnwys ystadegau ar y nifer o bobol anabl sydd yn dal swyddi cyhoeddus ac mae’n debyg mai ond 3.7% o benodiadau cyhoeddus sydd yn anabl.