Barry Thomas, Arweinydd Cyngor Powys
Mae Arweinydd Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhoi’r gorau i’w rôl ac na fydd yn ailymgeisio yn etholiadau mis Mai.
Mae’r Cynghorydd Barry Thomas wedi cynrychioli cymunedau Llanfihangel a Llangynyw yng ngogledd y sir ar ran y blaid anwleidyddol am fwy nag ugain mlynedd gan ddal swydd yr Arweinydd am dair blynedd.
Dywedodd ei fod wedi mwynhau cynrychioli’r ardaloedd ac arwain y Cyngor gan gydnabod nad yw hi wedi bod yn “dasg hawdd yn enwedig yn ystod cyfnod o bwysau ariannol.”
“Rwy’n falch fod y cyngor, er gwaethaf pwysau ariannol difrifol, wedi ymrwymo mwy na £100m i ysgolion yn y sir.
“Ac ar nodyn personol rwyf wrth fy modd o fod wedi codi proffil dyslecsia,” meddai gan esbonio fod swyddog ar gael i helpu staff y cyngor sydd angen cymorth.