Llun: PA
Mae Theresa May yn debygol o gael ei threchu wrth i’r Arglwyddi bleidleisio dros welliant i Fesur Brexit y prynhawn yma yn galw am bleidlais i Aelodau Seneddol ar y cytundeb terfynol cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Petai’r gwelliant yn cael ei gymeradwyo, fe fyddai’n mynd gerbron Tŷ’r Cyffredin unwaith eto i’w drafod.

Mae hyn eisoes yn wir am welliant gafodd ei gymeradwyo’r wythnos diwethaf ynglŷn â hawliau dinasyddion Ewropeaidd sy’n byw ym Mhrydain.

Ond fe wnaeth y Llywodraeth drechu ymgais y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Arglwyddi i gynnal refferendwm ar gytundeb Brexit.

Mae’r Mesur yn y cyfnod adolygu ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddo fynd yn ôl at Dŷ’r Cyffredin ar Fawrth 13 ac 14.