Dociau'r Barri (M J Richardson CCA2.0)
Mae grŵp ymgyrchyu wedi galw ar i brotestwyr bicedu cyfarfod cyngor yr wythnos nesa’ i wrthdystio yn erbyn cynllun i ganiatáu llosgydd pren yn agos at un o drefi mwya’ Cymru.

Mae mudiad DIAG eisiau i drigolion fynd i gyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Tref y Barri pan fyddan nhw’n trafod y bwriad i roi trwydded i’r llosgydd pren gwastraff yn nociau’r dre’.

“Mae angen i ni ddangos beth yw cryfder y gwrthwynebiad,” meddai Keith Stockdale ar ran DIAG – Grŵp Gweithredu Llosgytdd y Dociau.

Yr awdurdod amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru, fydd yn trwyddedu neu beidio ond mae’r cyngor tref hefyd yn gallu mynegi barn.

Cyfarfod cyhoeddus

Roedd cyfarfod cyhoeddus yr wythnos ddiwetha’ yn y Barri, pan gafodd pobol leol gyfle i holi cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae yna frwydr hir wedi bod tros y cynlluniau i gael llosgydd, gyda’r gwrthwynebwyr yn dweud y byddai’n arwain at fwg a llygredd yn y dref.