Neil McEvoy
Bydd un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn mynd gerbron panel dyfarnu heddiw a fory dros “sylw bygythiol” y mae’n cael ei gyhuddo o wneud yn erbyn aelod o staff Cyngor Caerdydd.
Bydd Neil McEvoy, AC Canol De Cymru a chynghorydd yn y brifddinas, yn ymddangos o flaen Tribiwnlys Panel Dyfarnu yn Llys Ynadon Caerdydd ar ôl i’r achos gael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett.
Mae’r gwleidydd wedi beirniadu’r ymchwiliad, gan ddweud bod yr holl beth yn “achos sioe wleidyddol”.
Mae wedi amddiffyn ei sylwadau hefyd, gan ddweud mai’r cwbl dywedodd yng nghlyw’r aelod o staff oedd “’Allaf i ddim aros nes mis Mai 2017 pan fydd y cyngor yn cael ei ailstrwythuro.”
Mae e’n gwrthod ei fod wedi gwneud sylw bygythiol o unrhyw fath.
Gall y panel benderfynu na fydd hawl gan Neil McEvoy sefyll yn yr etholiadau lleol eleni ac mae suon y gallai hyd yn oed golli ei swydd fel Aelod Cynulliad, pe bai’r panel yn dyfarnu yn ei erbyn.
Neil McEvoy – achos ‘annheg’
“Dyw hyn ddim yn fawr fwy nag achos gwleidyddol. Cafodd y gwyn ei gwneud gan wleidydd Llafur,” meddai Neil McEvoy.
“Fe wnaeth yr Ombwdsmon, oedd mewn busnes gyda Gweinidog Llafur, gyfeirio’r mater at y Panel; cafodd y bobol ar y Panel sy’n fy nyfarnu eu penodi gan wleidyddion Llafur.
“Dyma ffeithiau’r mater. Mae diffyg democrataidd anferth yng Nghymru. Rydym mwy neu lai’n byw mewn gwladwriaeth un Blaid.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.