Mae dwy ddinas o Gymru ymhlith yr 11 o ardaloedd sydd wedi ymgeisio am deitl ‘Dinas Diwylliant Prydain’ am y flwyddyn 2021.
Mae Abertawe a dinas leiaf gwledydd Prydain, Tyddewi, wedi rhoi eu hetiau yn y cylch yn y drydedd gystadleuaeth o’i math.
Fel rhan o gais Abertawe – dinas wnaeth gyrraedd rhestr fer 2017 – mae cynllun ar gyfer adfywio canol y ddinas, sefydlu ardal ddigidol yn Kingsway a ‘tref focs’ ar gampws Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant.
Mae cynnig Tŷddewi yn cynnwys cantref Pebidiog hefyd, yr ardal o Solfach i Wdig, ac mae’r cyngor wedi addo “rhaglen fywiog gyda chymysgedd o ddeunydd traddodiadol a chyfoes, ysbrydolwyd gan y dirwedd a’r amgylchedd.”
Cystadleuaeth Brydeinig
Yn cystadlu yn erbyn y ddwy ddinas Gymreig fydd Coventry, Hereford, Paisley, Perth, Portsmouth, Stoke-on-Trent, Sunderland, Warrington a Wells.
Mae’n debyg bydd Dinas Ddiwylliant Prydain 2017 Hull, yn gweld hwb £60 miliwn i’w economi flwyddyn yma o ganlyniad i’r teitl ac mae’r ddinas wedi derbyn £1 biliwn o fuddsoddiad ers ennill y teitl yn 2013.
Bydd rhestr fer y gystadleuaeth yn cael ei chyhoeddi dros yr Haf gydag enillydd y teitl yn cael ei gyhoeddi ym mis Ragfyr.