llun o wefan yr heddlu)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio’r cyhoedd i fod ar eu gwyliadwriaeth am bapurau arian ffug.
Daw eu rhybudd ar ôl iddynt nhw arestio chwe dyn yn ardal Bradford ddoe ar amheuaeth o dwyll.
Mae’r dynion yn cael eu hamau o ddefnyddio papurau £20 ffug i brynu pethau ar draws ardaloedd arfordirol Conwy a Dinbych.
Dywedodd y Rhingyll Dean Jones: “Rydym yn awyddus i glywed gan bobl busnes sy’n amau eu bod nhw wedi dioddef wrth drafod y papurau ffug yma.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â phapurau arian ffug gysylltu â CID Llanelwy ar 101 neu 0800 555111.