Llun: Yui Mok/Gwifren PA
Dylai gyrwyr feddwl dwywaith cyn prynu car diesel, yn ôl yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling.
Yn lle hynny, dylai pawb wneud ymdrech i brynu cerbydau sy’n achosi leiaf o lygredd, meddal.
Mae ei sylwadau yn dilyn adroddiadau fod y llywodraeth yn ystyried cynllun i roi cymhelliad ariannol i yrwyr gael gwared ar hen gar diesel a phrynu cerbyd ag allyriadau isel yn ei le.
Mae pryder ynghylch effaith ceir diesel ar lefelau nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer wedi dod i’r amlwg ers i Volkswagen gael eu dal yn ffugio profion llygredd ym mis Medi 2015.
Yn ôl dadansoddiad gan yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), amcangyfrifir bod NO2 yn gyfrifol am 23,000 o farwolaethau ym Mhrydain bob blwyddyn.
Ers i’r canghellor ar y pryd, Gordon Brown, ostwng y dreth ar danwydd sylffwr isel yn 2001, mae’r nifer o geir diesel ym Mhrydain wedi cynyddu o 3.45 miliwn i 8.2 miliwn.