Wiwer goch
Mae apêl wedi ei lansio heddiw i geisio denu 5,000 o wirfoddolwyr i helpu gwarchod gwiwerod coch.
Gobaith ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Natur ag Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru yw ehangu ar y 500 o bobol sy’n gwarchod gwiwerod coch ar hyn o bryd.
Byddai gofyn i wirfoddolwyr newydd gofnodi adroddiadau gan bobol sydd yn meddwl eu bod wedi gweld gwiwerod coch neu wiwerod llwyd yn ardaloedd wiwerod coch.
Mae arbenigwyr yn credu y gall wiwerod coch ddiflannu yn llwyr o fewn 35 blynedd heb gymorth dynol, ac mae’r ymddiriedolaethau wedi pwysleisio mor bwysig yw medru denu gwirfoddolwyr at yr achos.
“Hynod o Gyffrous”
Cafodd wiwerod llwyd eu gwaredu o Ynys Môn yn 2013 a bellach mae poblogaeth wiwerod coch yr ynys wedi dechrau ehangu i Wynedd, mor bell â Bedd Gelert.
Mae Ymddiriedolaeth Wiwerod Coch Cymru yn wedi dechrau ail gyflwyno wiwerod coch i Fethesda ac mae cynlluniau i gynyddu niferoedd wiwerod coch yng nghoed Clocaenog yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y Cadwraethwr Craig Shuttleworth wrth golwg360: “Mae beth sy’n digwydd yng Nghymru yn hynod o gyffrous a dw i’n meddwl mai ni yw’r mwyaf arloesol. Gwnaethom waredu wiwerod llwyd o Ynys Môn ychydig flynyddoedd yn ôl, dyma’r tro cyntaf a’r unig dro mae’r fath warediad wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.
“Mae gyda ni dueddiad ond i edrych am wiwerod lle rydym yn gwybod eu bod yn byw yn barod, ond mae’r prosiect yma yn agored i chwilio mewn llefydd eraill. Mae’r project yma yn chwilio am lygaid a chlustiau dros Gymru. Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gweld gwiwer goch, rhowch wybod a wnawn ni gofnodi’r wybodaeth yna.”