Y diweddar Athro Garel Rhys
Mae colofnydd moduro wedi talu teyrnged i arbenigwr “eithriadol” yn y maes a fu farw yn 76 oed yr wythnos hon.
Roedd yr Athro Garel Rhys CBE yn llais cyfarwydd ac yn awdurdod ar y diwydiant moduro ledled y byd, a bu farw wythnos cyn ei ben-blwydd yn 77.
Yn ôl Huw Thomas, cadeirydd grŵp Gohebwyr Moduro Cymru, yr hyn oedd yn “unigryw” amdano oedd ei “ehangder gweledigaeth a gorwelion i’w wybodaeth a’i ddysg”.
“Roed ganddo wybodaeth anhygoel ynglŷn â hanes cerbydau modur a diwydiant a’r cyd-destun economaidd,” meddai Huw Thomas wrth golwg360.
“Dw i ddim yn credu fy mod i erioed wedi cwrdd â rhywun oedd yn cymharu â Garel Rhys. Roedd ganddo ddiléit mewn ceir yn ogystal â’i fod yn arbenigol ar geir, ac ar y farchnad a’r diwydiant.
“Pan ydych chi’n cael yr holl rinweddau yna mewn un person, mae gennych chi rywun go eithriadol.”
Dyn “croesawgar a chymdeithasol”
Bu Garel Rhys, a gafodd ei fagu ger Abertawe ond a dreuliodd flynyddoedd yng Nghaerdydd, yn Athro Economeg y Diwydiant Moduro ym Mhrifysgol Caerdydd rhwng 1984 a 2005.
Roedd hefyd yn Llywydd Fforwm Modurol Cymru ac yn 2002, enillodd wobr goffa Tom Pryce, er cof am y gyrrwr rasio Fformiwla 1 a bu farw yn 1977.
“Roedd yn ddyn croesawgar iawn ac yn gymdeithasol. Roedd e’n mwynhau trin a thrafod gyda phobol a sgwrsio,” ychwanegodd Huw Thomas am ei gymeriad.
“Felly roedd yn dda ar yr ochr gyfathrebu. Roedd e nid yn unig yn gallu deall ei bwnc a maes llafur, ond roedd e hefyd yn gallu cyfathrebu.
“Roedd ei areithiau fe yn gallu bod yn faith mae’n rhaid dweud” meddai dan chwerthin, “am ei fod yn gwybod cymaint am y pwnc, roedd e’n gallu mynd ymlaen ac ymlaen – ond roedd e’n gallu diddanu’r gynulleidfa yn ogystal â chyfleu gwybodaeth.”