Mae dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pontypridd neithiwr wedi cael ei enwi.
Roedd Thomas Cody, 24 oed o Gilfynydd ger Pontypridd, yn teithio ar yr A4119 yng Ngroes-faen ger Cilfynydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd – Citroen Picasso porffor – am oddeutu 7.40yh. Mae Heddlu’r De’n apelio am dystion.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: “Cafodd ein mab, brawd, ŵyr, ewythr a nai ei gymryd yn greulon oddi arnon ni’n rhy fuan. Fel teulu, rydyn ni’n torri’n calonnau ac mewn dinistr.”