Mae chwech o bobol wedi’u harestio wedi i heddlu arfog gael eu galw i ddigwyddiad yng nghanol Caerdydd brynhawn Mawrth yr wythnos hon.
Mewn datganiad, mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth am y ffrwgwd yn Iron Street, Adamsdown tua 3yp.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond mae’r heddlu wedi cadarnhau fod yna blismyn arfog wedi’u hanfon yno.
Mae’r chwe dyn sydd yn y ddalfa rhwng 18 a 23 oed, ac wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd.