Logo Pembrokeshire Care Ltd
Mae 16 o gwmnïau Cymreig wedi eu cynnwys ar restr o 360 o gwmnïau Prydeinig sydd heb fod yn talu digon i’w gweithwyr.
Mae un o’r cwmnïau Cymreig, Pembrokeshire Care Ltd o Hwlffordd yn ail ar y rhestr Brydeinig ar ôl methu â thalu mwy na £55,000 i 154 o weithwyr,.
Cwmni siopau Debenhams sydd ar ben y rhestr a gafodd ei chyhoeddi gan Lywodraeth Prydain – roedden nhw wedi methu â thalu bron i £135,000 i tua 12,000 o weithwyr.
Mae’r rhestr gyfan yn cynnwys pob math o fusnesau o salonau trin gwallt i gartrefi gofal ac mae gorfodi staff i dalu am eu hiwnifformau a thalu am bartïon gwaith ymysg yr esgusodion.
Mae’r diwydiant gofal yn amlwg ar y rhestr.
Yn ôl yr Adran Fusnes maen nhw’n ymchwilio i 1,500 achos ac mae disgwyl y bydd mwy o fusnesau yn cael eu henwi.
Cosbi Cwmniau
“Mae pob gweithiwr yn y Deyrnas Unedig yn haeddu ennill o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol a’r cyflog byw cenedlaethol ac mae’r llywodraeth yma am sicrhau eu bod yn ei dderbyn,” meddai’r Gweinidog Busnes, Margot James.
“Mae enwi’r 360 cyflogwr yma yn danfon neges glir, mi fydd anwybyddu’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei gosbi.”
Y Cwmnïau Cymreig a’u lle ar y rhestr Brydeinig
2. Pembrokeshire Care Limited, Hwlffordd, wedi methu â thalu £55,056.75 i 154 gweithiwr.
53. Mr Russell Evans & Mrs Lynne Evans, Glanmor’s Bakery, Caerffili, wedi methu â thalu £3,959.70 i un gweithiwr.
55. Mrs Leanne Thomas-Pughsley dan enw UC Better Window Cleaning, Cydweli, wedi methu â thalu £3,750.60 i un gweithiwr.
78. Mrs Aneta Elizbieta Luzarova dan enw Majka Polish Shop, Llanybydder, wedi methu â thalu £2,193.10 i un gweithiwr.
130. Luca Monte Limited dan enw Zia Nina, Pen y Bont ar Ogwr, wedi methu â thalu £1,238.53 i un gweithiwr.
180. Blackwater Bars Limited dan enw Idols, Abertawe, wedi methu â thalu £795.04 i 20 gweithiwr.
192. Wastesavers Limited dan enw Wastesavers, Casnewydd, wedi methu â thalu £682.51 i un gweithiwr.
203. Aber House Ltd dan enw Sam’s Grill House, Caerffili, wedi methu â thalu £636.30 i un gweithiwr.
205. M.D.T. Electrical Limited, Caerdydd, wedi methu â thalu £627.28 i un gweithiwr.
213. Wales Interactive Limited, Pencoed, wedi methu â thalu £571.77 i un gweithiwr.
227. Mr Marcus Hobbs trading as Pride in Care, Rhosymedre, wedi methu â thalu £493.77 i un gweithiwr.
244. 118 Limited, Caerdydd, wedi methu â thalu £422.21 i un gweithiwr.
253. Corporate Food Company Limited, Pentre, wedi methu â thalu £394.25 i un gweithiwr.
310. Mr Darren Childs, Trefynwy, wedi methu â thalu £192.50 i un gweithiwr.
314. Robert Hughes dan enw Autostop Tyres & Exhaust Centre, Y Porth, wedi methu â thalu £182.00 i un gweithiwr.
329. Dawsons (Wales) Ltd, Gwynedd, wedi methuâ thalu £162.86 i ddau weithiwr.