Colin Jackson adeg ymgyrch i dynnu sylw at ganser y prostad (Llun yr ymgyrch Go Dad Run)
Mae’r cyn-athletwr a phencampwr y byd, Colin Jackson wedi datgelu ei fod wedi derbyn mwy o driniaeth anffafriol am ei fod yn Gymro nag oherwydd ei fod yn ddu.
Mewn cyfweliad gyda Ian Hunt ar BBC Radio Wales sy’n cael ei ddarlledu heno datgelodd Colin Jackson ei brofiadau fel Cymro ym myd athletau.
Mae’n honni ei fod wedi cael ei drin yn israddol oherwydd ei fod yn Gymro a bod athletwyr llai o dros y ffin wedi cael eu ffafrio yn ei le.
Beth mae Colin Jackson yn ei ddweud
“Bydden ni’n mynd ar gyrsiau hyfforddiant, ac oherwydd ein bod ni’n Gymry roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i ddim yn cael yr un cyfleoedd ag y dylwn i fod wedi eu cael.
“Fi oedd y gorau yn y wlad ond roedden nhw’n fy niystyru fi; oedden nhw’n ffafrio’r rhedwyr Seisnig oedd yn cymryd rhan, o ran dewis athletwyr neu hyd yn oed o ran noddi,” meddai ar y rhaglen.
Ar un adeg Colin Jackson oedd y rhedwr gorau tros y clwydi yn y byd gan ddal record byd y 110 metr am ddeng mlynedd – ef sy’n dal y record o hyd am 60 metr dan do.
“Oedd y driniaeth yn anffafriol. Yng Nghymru wnes i erioed wynebu hynna. O’n i’n ddu ond o’n i heb sylwi hynna oherwydd o’n i’n Gymro yn fwy na dim arall.
“O ran cael fy nhrin yn anffafriol, o’n i’n teimlo bod pobol yn ymddwyn fel hynna ataf yn fwy oherwydd fy mod yn Gymro yn fwy nag unrhyw reswm arall.”
Yn ystod y cyfweliad bu Colin Jackson hefyd yn trafod ei fagwraeth yng Nghaerdydd, ei fywyd yn un o sêr chwaraeon enwocaf Cymru, ac am ei fywyd oddi ar y trac athletau.
Bydd Colin Jackson at 50 yn cael ei ddarlledu heno ar BBC Radio Wales am 8.00 heno.