(llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Cafodd pedwar dyn lleol eu harestio mewn cyrchoedd gwrth-gyffuriau gan Heddlu Gogledd Cymru yn ardal Bethesda a Bangor ddoe.
Mae’r pedwar dyn rhwng 22 a 39 oed yn cael eu hamau o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda’r bwriad o gyflenwi.
Dywedodd yr Arolygydd Owain Llewellyn, Arolygydd Rhanbarthol Gogledd Gwynedd, fod rhagor o gyrchoedd tebyg ar y gweill.
“Mae ‘Ymgyrch Rattle’ yn ymchwiliad sy’n parhau i dargedu’r rheini sy’n dod â chyffuriau anghyfreithlon i Wynedd a Môn o du allan i ogledd Cymru,” meddai.
“Rydan ni’n benderfynol o gael gwared â’r pla hwn o’n cymunedau, ac rydan ni’n canolbwyntio ar dargedu’r ychydig yn ein cymunedau sy’n achosi’r niwed mwyaf.”
Fe fu cyrch gyda chŵn yng ngorsaf reilffordd Bae Colwyn hefyd ar ôl i’r heddlu dderbyn gwybodaeth bod cyffuriau anghyfreithlon yn cael eu cludo yno.
Er na chafodd neb eu harestio, dywedodd yr heddlu y bydd eu hymchwiliadau’n parhau.