Y Parchgn Tom T Defis a Wynn Vittle yn cyflwyno’r arian i Judith Morris, Ysgrifennydd Undeb y Bedyddwyr (llun: Cymorth Cristnogol)
Mae llyfr a gafodd ei gyhoeddi gan yr elusen Cymorth Cristnogol wedi codi £4,000 tuag at raglen i hybu iechyd mamau beichiog yn Ghana yng ngorllewin Affrica.
Awdur y llyfr ‘Ehangu Gorwelion’ yw Wynn Vittle, a fu’n Ysgrifennydd Cymru Cymorth Cristnogol am 18 mlynedd, sy’n olrhain hanes yr elusen yng Nghymru, ac yn rhoi ei argraffiadau personol o’i ymweliadau â 10 o wledydd.
Gan mai’r rhaglen hon yn Ghana oedd apêl enwadol Undeb Bedyddwyr Cymru y llynedd, fe fydd yr arian yn cael ei gyflwyno drwy eu hapêl nhw.
Nod yr apêl yw helpu cannoedd o deuluoedd difreintiedig Ghana, lle mae 380 o bob 100,000 yn marw adeg genedigaeth.
“Hoffwn i a’r awdur ddiolch yn fawr i werthwyr a phrynwyr y llyfr am helpu rhoi’r hawl i fyw i genedlaethau’r dyfodol yn Ghana,” meddai’r Parch Tom Defis ar ran Cymorth Cristnogol.