Mae elusen yn dweud mai pobol fyddar sy’n dioddef waethaf yn dilyn cyfres o doriadau gwasanaethau cymdeithasol Cymru.
Mae ymholiadau Action on Hearing Loss Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod toriadau mawr wedi bod dros y pedair blynedd ddiwethaf yng ngwariant cynghorau sir ar gyfarpar i bobol â cholled clyw.
Mewn rhai awdurdodau lleol, mae’r cyllidebau ar gyfer y cyfarpar, sy’n cynnwys ffonau wedi’u haddasu, clychau drws sy’n fflachio ac offer gwrando personol i bobol â cholled clyw, wedi haneru.
Yn ôl yr elusen, mae’r rhain yn gymorth i bobl â cholled clyw allu byw’n fwy annibynnol a lleihau arwahanrwydd ac unigedd.
Yn ôl ffigurau’r elusen, mae dros 575,500 o bobl yng Nghymru sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, ond £210,000 sy’n cael ei wario ar gyfarpar yng Nghymru bob blwyddyn.
Gofid dros unigrwydd ac iechyd meddwl
“Mae’r toriadau hyn yn peri gofid neilltuol pan ystyriwch ofynion poblogaeth sy’n heneiddio,” meddai Richard Williams, Cyfarwyddwr mudiad Gweithredu ar Golled Clyw Cymru.
“Mae gan fwy na 70% o bobl dros 70 oed golled clyw, a chyda nifer cynyddol o bobl yn byw’n hŷn, mae awdurdodau lleol mewn perygl o esgeuluso’r rheiny sydd fwyaf mewn perygl o arwahanrwydd a phroblemau iechyd meddwl.”
Er bod rhai awdurdodau lleol wedi cynyddu eu gwariant ar y cyfarpar, Sir y Fflint, Caerdydd a Sir Benfro oedd ar waelod y rhestr.