Roedd y pwysau o ddyfarnu rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd yn “ddim byd” o’i gymharu â brwydr bersonol Nigel Owens i dderbyn ei fod yn hoyw.

Dyna farn y dyfarnwr wrth iddo ddatgelu manylion am ei fywyd preifat ar raglen Desert Island Discs ar Radio 4.

Cyhoeddodd yn 2007 ei fod e’n hoyw, a hynny ar ôl ceisio lladd ei hun ar ôl sylweddoli ei fod e’n byw celwydd.

Dywedodd wrth Kirsty Young: “Fe wnes i grio’r noson honno a sylweddoli bod angen i fi dyfu lan.”

“Roedd dyfarnu ffeinal Cwpan y Byd rhwng Awstralia a Seland Newydd o flaen 85,000 o bobol a’r miliynau o bobol oedd yn gwylio gartref, yn craffu ar bob penderfyniad ry’ch chi’n ei wneud o dan gryn bwysau, yn ddim byd o’i gymharu â’r her o dderbyn pwy ydw i.

“Roedd derbyn pwy ydw i wedi achub fy mywyd.”

Mynyddcerrig

Yn frodor o Fynyddcerrig yn Sir Gaerfyrddin, fe deimlai Nigel Owens fod bod yn hoyw yn “hollol estron” iddo fe.

Byddai “wedi gwneud unrhyw beth i fod yn ‘normal’ yn llygaid pobol eraill”, meddai.

Ar ei hyd ei fywyd, mae Nigel Owens wedi bod yn brwydro yn erbyn ei bwysau, gan deimlo ei fod yn rhy denau neu’n rhy dew ar wahanol adegau.

Roedd byw celwydd yn straen arno ac fe benderfynodd, ac yntau’n 34 oed, ei bod yn bryd dweud wrth ei fam, Mair ei fod e’n hoyw.

“Ces i fy magu i fod yn onest, a dyma fi’n dweud celwydd wrth y person pwysicaf yn fy mywyd. Roedd yn effeithio ar fy mywyd i.

“Oni bai bo chi’n hapus gyda phwy ydych chi, allwch chi ddim rhagori a bod y gorau allwch chi fod, beth bynnag ry’ch chi’n ei wneud.

“Allwch chi ddim mwynhau bywyd os nad ydych chi’n hapus amdanoch chi’ch hunan.”

Wrth enwi eitemau i fynd â fe i ynys bellennig, dewisodd Nigel Owens lyfr ‘The Wind in the Willows’ gan Kenneth Graham, a bagiau te Cymreig fel eitem moethus.