Prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement (Llun: Golwg360)
Fe fydd rhaid i dîm pêl-droed gyflawni rhywbeth nad ydyn nhw wedi’i gyflawni ers 1951 er mwyn sicrhau triphwynt a thrydedd buddugoliaeth o’r bron, oddi cartref yn Manchester City heddiw (1.30yp).
Ar ôl dechrau siomedig yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn o dan Francesco Guidolin a Bob Bradley, mae perfformiadau a chanlyniadau’r Elyrch wedi gwella’n sylweddol o dan arweiniad Paul Clement.
Yn eu dwy gêm ddiwethaf, maen nhw wedi llwyddo i guro Lerpwl yn Anfield a Southampton yn Stadiwm Liberty.
Ac mae disgwyl i Paul Clement enwi’r un tîm unwaith eto wrth iddo geisio sicrhau rhywfaint o sefydlogrwydd.
Er hynny, mae’r capten dylanwadol Leon Britton ar gael unwaith eto’n dilyn anaf i’w goes.
Mae disgwyl i reolwr Man City, Pep Guardiola ddewis Gabriel Jesus o flaen Sergio Aguero, ac fe allai Fernandinho a Vincent Kompany ddychwelyd i’r garfan.
Yr ystadegau
Mae Man City yn ddi-guro yn eu 10 gêm diwethaf yn erbyn Abertawe, gan ennill wyth ohonyn nhw.
Ond fe allai’r ffaith fod y gêm yn cael ei chynnal ar ddydd Sul fynd o blaid Abertawe, gan mai dwy gêm yn unig allan o’r 12 diwethaf ar ddydd Sul mae Man City wedi’u hennill.
Ac fe allai buddugoliaeth annisgwyl i’r Elyrch olygu eu bod nhw’n sicrhau chweched colled mewn tymor i Pep Guardiola fel rheolwr am y tro cyntaf erioed yn ei yrfa.
Byddai buddugoliaeth o’r fath hefyd yn garreg filltir i Abertawe, sy’n mynd am eu canfed buddugoliaeth yn yr Uwch Gynghrair.
O dan Paul Clement, mae’r Elyrch wedi ennill tair gêm allan o bedair – yr un faint ag yr oedden nhw wedi’u hennill yn eu 19 gêm cyn i’r prif hyfforddwr newydd gael ei benodi.
Dydyn nhw ddim wedi ennill tair gêm gynghrair o’r bron ers mis Ebrill a Mai 2015.
Talcen caled
Ers iddo gael ei benodi, mae Paul Clement eisoes wedi dod wyneb yn wyneb â rhai o reolwyr gorau’r Uwch Gynghrair – Jurgen Klopp (Lerpwl) ac Arsene Wenger (Arsenal).
Ac mae cyn is-reolwr Bayern Munich wedi cyfaddef ei fod yn edrych ymlaen at herio cyn-reolwr y tîm Almaenig.
“Mae wedi bod yn uchelgais gen i erioed cael bod yn rheolwr. O’m safbwynt i, dw i wedi bod eisiau hyn erioed.
“Ar ôl bod yn cydweithio â Carlo [Ancelotti] am nifer o flynyddoedd, ro’n i wedi bod yn y cylchoedd hynny, ond mae’n wahanol iawn pan mai chi yw’r prif hyfforddwr yn hytrach na’r is-hyfforddwr.
“Ond mae’n bleser mawr cael wynebu’r rheolwyr mawr hyn ry’n ni’n siarad amdanyn nhw, a chael chwarae yn erbyn y timau hyn hefyd.
“Mae cael paratoi’r tîm a chynllunio ar gyfer wynebu’r math yma o wrthwynebwyr yn wych.”
Tro ar fyd
Sicrhaodd Abertawe naw pwynt allan o 12 ym mis Ionawr, ac mae Paul Clement yn gobeithio bod hynny wedi rhoi hyder i’r chwaraewyr ar gyfer gweddill y tymor.
“Mae naw pwynt allan o 12 ym mis Ionawr i unrhyw dîm yn creu argraff ac ar sail y canlyniadau blaenorol a’r newidiadau yn y momentwm a’r hyder, roedd yn anferth i ni.
“Yn enwedig ar ein tomen ein hunain hefyd gan mai’r drydedd [buddugoliaeth] oedd hi, ac roedd hi’n wych i’r cefnogwyr gael gweld y canlyniad.”
Un newid mawr yn y perfformiadau’n ddiweddar yw gallu Abertawe i ddal eu gafael ar y gêm wrth iddyn nhw fynd gôl ar y blaen.
Ychwanegodd Paul Clement: “Dyw e ddim yn dda ar gyfer fy nerfau, alla’i sicrhau hynny!
“Ond mae’n beth mawr i’r tîm gael gwneud hynny am y trydydd tro.”
Pep Guardiola
Yn ôl Paul Clement, mae Pep Guardiola wedi dod yn un o reolwyr gorau’r byd mewn cyfnod cymharol fyr.
“Ry’ch chi’n anghofio nad yw e wedi bod yn hyfforddwr yn hir iawn, ond edrychwch ar yr hyn mae e wedi’i gyflawni.
“Nid yn unig y tlysau mae e wedi’u hennill sy’n bwysig, ond yr hyn mae e wedi’i wneud o safbwynt athroniaeth bêl-droed.
“Mae hyfforddwyr ar draws y byd yn edrych ar yr hyn mae e’n ei wneud o ran athroniaeth bêl-droed ymosodol a gwthio, ac fe gafodd e lwyddiant mawr yn Bayern.”