Ni fydd chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey yn medru chwarae am dair wythnos oherwydd anaf i’w goes, yn ôl rheolwr Arsenal, Arsene Wenger.

Gadawodd Aaron Ramsey y cae yn gloff yn ystod hanner cyntaf gêm Arsenal v Watford nos Fawrth.

Mae’r chwaraewr eisoes wedi methu 10 wythnos o’r tymor oherwydd anaf arall i’w goes.

“Rydym ni’n credu bydd e allan am 21 diwrnod,” meddai Arsene Wenger. “Rydym ni ychydig yn brin o ran chwaraewyr ar hyn o bryd ond dw i’n meddwl bod gyda ni chwaraewyr ifanc gall wneud yn dda.”

Mae disgwyl i’r anaf beri gofid i reolwr tîm cenedlaethol Cymru, Chris Coleman gyda gêm ryngwladol nesaf Cymru yn Nulyn ar Fawrth 24 yn agosáu.

Yn y gorffennol mae Chris Coleman wedi beirniadu clwb Arsenal am eu dull o drin o Aaron Ramsey.