Luke Rowe
Mae Cymro wedi cipio ei fuddugoliaeth beicio unigol gyntaf mewn pedair blynedd wrth ennill ail ran yr Herald Sun Tour.

Enillodd Luke Rowe y cymal 165.6km o’r ras rhwng Mount Beauty a Beechworth yn Awstralia.

Cwympodd Chris Froome, cyd-aelod o dîm Sky gyda Luke Rowe, i’r chweched safle fel ei fod munud a 12 eiliad tu ôl i enillydd cam cyntaf y ras, Damien Howson.

Mae’r ras pum diwrnod yn rhoi cyfle i Luke Rowe baratoi ar gyfer y Spring Classics sef cyfres o rasys undydd o hyd ar draws Ewrop.

Daeth yn bumed yn Nhaith Fflandrys  flwyddyn ddiwethaf a gorffennodd yn yr wythfed safle yn ras Paris-Roubaix yn 2015.