Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae prif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi dweud ei fod yn falch o fod wedi cadw ei afael ar ddau o’i chwaraewyr allweddol wrth i’r ffenest drosglwyddo gau.
Fe gaeodd y ffenest ddiweddaraf ddydd Mawrth ar ôl i glybiau fynegi diddordeb yn Gylfi Sigurdsson a Borja Baston.
Gylfi Sigurdsson
Mae mis yn weddill i glybiau yn China arwyddo chwaraewyr, ac mae lle i gredu bod yr Elyrch wedi gwrthod cynnig o fwy na £30 miliwn ar gyfer y gŵr o Wlad yr Iâ sydd wedi sgorio hanner goliau Abertawe’r tymor hwn.
Wrth gadarnhau bod trafodaethau wedi cael eu cynnal, dywedodd Paul Clement: “Dw i’n gweld rhywun sydd wedi ymrwymo’n llawn i’r clwb a’r tîm yma. Ac mae e’n gweithio bob dydd i fod y chwaraewr gorau y gall fod.
“Dw i wedi gweld chwaraewyr tipyn gwaeth na fe’n chwarae ar y lefel yma. Mae e’n chwaraewr da iawn.”
Borja Baston
Yn y cyfamser, mae Paul Clement hefyd wedi cadarnhau bod trafodaethau munud olaf wedi cael eu cynnal yn hwyr nos Fawrth, wrth i Villareal geisio denu’r Sbaenwr Borja Baston yn ôl i’w famwlad.
Prin fu cyfleoedd y Sbaenwr y tymor hwn, yn gyntaf oherwydd anaf ar ddechrau’r tymor ac yna yn sgil dewis ei gydwladwr Fernando Llorente yn brif ymosodwr.
Ond mae Paul Clement yn credu bod gan y chwaraewr a gostiodd £15.5 miliwn – sy’n record i’r clwb – ddigon o amser yn weddill y tymor hwn i gystadlu am le yn y tîm, ac fe gafodd ei gynnwys ar y fainc ar gyfer y fuddugoliaeth o 2-1 dros Southampton nos Fawrth.
“Roedd e bob amser yn mynd i fod ar y fainc ar gyfer y gêm honno,” meddai.
“Alla’ i ddim dweud bod [y trosglwyddiad] yn agos at ddigwydd, ond galla i ddweud bod trafodaethau wedi bod.
“Ond roedd hi’n anodd gadael iddo fe fynd. Ar hyn o bryd, fe yw’n hail ymosodwr ni.
“Fernando Llorente yw’r prif ymosodwr ar hyn o bryd ond pwy a ŵyr, efallai y bydda i’n newid hynny ar ryw adeg neu efallai y bydd gyda ni anafiadau.”
‘Digon i’w gynnig’
Mae Borja Baston wedi sgorio un gôl mor belled yn ei 13 gêm i’r Elyrch, ac mae Paul Clement yn credu bod gwell i ddod gan y Sbaenwr yn y gemau sy’n weddill y tymor hwn.
“Mae e’n broffesiynol, ac mae e’n gweithio’n galed iawn wrth ymarfer.
“Yn amlwg, mae’r trosglwyddiad o La Liga [yn Sbaen] i’r Uwch Gynghrair wedi bod yn anodd iddo fe am nifer o resymau, ond dw i’n gweld rhywun sy’n canolbwyntio ar ei waith ac sydd eisiau helpu’r tîm i aros yn y gynghrair hon.
“Os ydych chi’n sgorio 18 gôl yn La Liga i dîm fel Eibar sydd ddim yn glwb mawr, dydych chi ddim yn cael yr un faint o gyfleoedd â’r ymosodwyr sy’n chwarae i’r clybiau mawr.
“Felly mae’n amlwg ei fod e’n dalentog a galluog a rhaid i ni gydweithio i ail-ddarganfod ei hyder er mwyn iddo fe gyflawni i’r tîm hwn.”