Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o garej betrol ym Mhontarddulais nos Fawrth.
Yn ôl adroddiadau, fe gafodd staff y garej Shell ar Heol Sant Teilo eu bygwth gan ddyn â morthwyl tua 6.50yh.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.